Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol Awtistiaeth

12.00-13.30 13 Tachwedd, 2013

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

 

1. CROESO

Croesawodd Mark Isherwood, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol Awtistiaeth, bawb i gyfarfod olaf 2013, a oedd ar thema awtistiaeth a phobl hŷn. Roedd yr Aelodau Cynulliad canlynol hefyd yn bresennol yn y cyfarfod: Nick Ramsay, William Powell a Rhodri Glyn Thomas.

 

2. MATERION YN CODI

Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth allgymorth Gogledd Cymru, sydd ar fin cael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Dylai hyn gael ei gwblhau cyn bo hir. Derbynnir atgyfeiriadau ar gyfer pobl sydd angen y math hwn o wasanaeth a dylai'r rhai sydd â diddordeb gysylltu â swyddfa'r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yng ngogledd Cymru yn uniongyrchol. Cynhelir achlysur lansio ar gyfer y gwasanaeth newydd yn gynnar y flwyddyn nesaf, ac mae hwn yn cael ei gynllunio ar hyn o bryd.

 

Codwyd pryderon am y prinder cyfleoedd sydd ar gael i bobl ag awtistiaeth sydd dros 25 mlwydd oed ac awgrymwyd bod y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg yn cael ei wahodd i fynychu cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol Awtistiaeth yn y dyfodol.

 

3. CYFLWYNIADAU

Clywodd y Grŵp Trawsbleidiol Awtistiaeth gan dri siaradwr, a oedd wedi cael profiadau o ymdrin ag awtistiaeth a heneiddio.

 

Mae Leslie Wood yn ei saithdegau, a chafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn ei bumdegau. Dywedodd Leslie bod codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn hanfodol. Amlinellodd y gefnogaeth a dderbyniodd gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru ac effeithiau cadarnhaol hynny. Hefyd, siaradodd Leslie yn agored am y teimladau hunanddinistriol a gafodd cyn cael diagnosis, a'r pwysigrwydd bod rhywun yn gwrando arno a'i gefnogi, a'r effaith a gafodd hynny ar ei les.

 

Cafodd Christine Durne ddiagnosis o syndrom Asperger yn 48 oed. Esboniodd Christine sut roedd peidio â chael diagnosis am gyhyd wedi gwneud ei datblygiad addysgol yn anodd ac wedi arwain at anawsterau ymddygiadol. Oherwydd na allai gael gwaith, nid oedd ganddi unrhyw strwythur yn ei bywyd a theimlai'n siomedig am hyn. Ychwanegodd Christine fod ansawdd ei bywyd wedi gwella, gyda chymorth Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, ond yn 60 mlwydd oed roedd yn poeni am y dyfodol ac am gael gwybodaeth briodol a dewis ynghylch y penderfyniadau y gallai eu gwneud am ei bywyd. Roedd Christine yn mynnu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod pobl ag awtistiaeth yng Nghymru a'u cefnogi'n well.

 

Yn olaf, siaradodd Peter Bray am ei brofiad o fod yn dad i'w fab 40 mlwydd oed sydd ag awtistiaeth.  Disgrifiodd Peter yr anawsterau beunyddiol sy'n eu hwynebu fel teulu, a'r straen y gall hyn ei achosi yn y teulu. Rhoddodd grynodeb o'i brofiadau trwy ddweud fod ganddo fab ardderchog a fyddai'n gwneud unrhyw beth drosto ef a'i wraig. Fel teulu, byddent yn chwerthin llawer ac roeddynt wedi dysgu byw bywyd un dydd ar y tro, gan obeithio a hyderu am gyfnodau gwell.

 

Siaradodd Carol Povey, Cyfarwyddwr Canolfan Awtistiaeth y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, am y gwaith ymchwil yr oeddynt wedi'i wneud ar bobl hŷn ag awtistiaeth (40 +) a'r heriau a ddaw yn sgîl hynny.

 

Cydnabu Carol mai dyma'r tro cyntaf yr oedd y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth wedi cynnal ymchwil i'r mater hwn yn benodol. Aeth ymlaen i esbonio bod cael diagnosis yn allweddol i egluro pam mae pobl yn teimlo'n wahanol drwy gydol eu hoes, ond nad oes llawer o gydnabyddiaeth o'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn ag awtistiaeth.  Ychydig o gydnabyddiaeth a roddir hefyd i'r sgiliau a'r wybodaeth sydd gan weithwyr iechyd proffesiynol i gefnogi pobl ag awtistiaeth yn ddigonol.

 

Pwysleisiodd Carol bwysigrwydd y gwasanaethau ataliol, gan gynnwys eiriolaeth annibynnol, ac y dylai Awdurdodau Lleol gynnwys pobl hŷn ag awtistiaeth fel y gallent fapio a chynllunio eu darpariaeth yn briodol. Gorffennodd drwy ddweud bod pobl hŷn ag awtistiaeth yn haeddu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, a bod ganddynt bob hawl i dderbyn y gwasanaethau hynny.

 

4. CAMAU GWEITHREDU

 

 

5. UNRHYW FATER ARALL

Dyddiad cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol Awtistiaeth: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 12 Chwefror, 2014 12.00-13.15